Cartref > Gwasanaethau Cyfreithiol > Pwer Atwrnai
Pwer Atwrnai
ATWRNEIAETH ARHOSOL
Mae Atwrneiaeth Arhosol ('LPA') yn ddogfen gyfreithiol sy'n rhoi'r hawl i rywun arall weithredu ar eich rhan yn effeithiol a gwneud penderfyniadau ar eich rhan os na allwch wneud hynny yn y dyfodol.
Mae dau fath o Atwrneiaeth Arhosol; LPA Iechyd a Lles ac LPA Eiddo a Materion.
Mae'r Atwrneiaeth Arhosol Iechyd a Lles yn caniatáu i chi ddewis un neu fwy o bobl (yr atwrneiod) - fydd yn gallu gwneud penderfyniadau am eich lles personol, megis eich gofal o ddydd i ddydd, triniaethau meddygol a gewch chi neu ble rydych chi’n byw.
Mae Atwrneiaeth Arhosol Eiddo a Materion yn delio â phenderfyniadau am y pethau materol yn eich bywyd, megis talu eich biliau, casglu eich incwm a'ch budd-daliadau, cynnal eich materion ariannol neu hyd yn oed, gwerthu eich tŷ.
Mae perygl bob amser y gall damwain, problem iechyd neu dynged greulon effeithio'n sylweddol ar les meddyliol a chorfforol. Gydag Atwrneiaeth Arhosol wedi’i threfnu gallwch sicrhau bod eich buddiannau'n cael eu diogelu gan ffrind dibynadwy neu aelod o'r teulu. Mae llawer ohonom yn colli ein hannibyniaeth wrth i ni fynd yn hŷn, felly mae'n hanfodol darparu ymlaen llaw cyn ei bod yn rhy hwyr. Mae'r ddogfen hon yn rhoi'r hawl gyfreithiol i unigolyn yr ydych yn ymddiried ynddo/i weithredu ar eich rhan wrth wneud penderfyniadau am eich cyllid a'ch gofal iechyd.
BETH SY'N DIGWYDD OS NAD OES GENNYF BŴER ATWRNEIAETH ARHOSOL WEDI’I DREFNU AC NA ALLAF REOLI FY MATERION FY HUN?
Heb Atwrneiaeth Arhosol, a phe baech yn methu â rheoli eich materion, byddai'n rhaid gwneud cais i'r Llys Gwarchod. Mae hyn yn arbennig o gyffredin mewn achosion lle nad oes Atwrneiaeth Achosol wedi'i threfnu gan fod y Ddeddf Diogelu Data yn atal banciau, cwmnïau yswiriant a sefydliadau ariannol eraill rhag delio ag unrhyw un heblaw chi neu'ch Atwrnai penodedig.
Byddai'r Llys hwn yn penodi Dirprwy a byddai'n goruchwylio rheolaeth y Dirprwy o'ch materion ariannol – ond ni fyddai gennych unrhyw lais o ran pwy fyddai'r Dirprwy hwnnw. Byddai'r broses yn cymryd llawer o amser, yn anhyblyg ac yn ddrud.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y maes cyfreithiol hwn neu os oes gennych berthynas y credwch y gallai fod yn berthnasol iddo/i, yna mae croeso i chi drafod gyda ni. Rydym yn fwy na pharod i'ch cynghori ar oblygiadau Atwrneiaeth Arhosol a chwblhau'r gwaith papur ar eich rhan.
Cysylltwch â ni heddiw i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar Atwrneiaeth Arhosol ar 01286 881078 neu anfonwch e-bost atom yn post@lloydevanshughes.com.
Sut allwn eich helpu?
Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda ac byddwn mewn cyswllt yn fuan.