Cartref > Gwasanaethau Cyfreithiol > Llys Amddiffyn

Llys Amddiffyn


LLYS GWARCHOD A PHENODI DIRPRWYON 

Mae colli gallu meddyliol bob amser yn achosi straen sylweddol i unigolion a'u hanwyliaid, p'un a yw hyn yn digwydd oherwydd cyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran, anaf trawmatig, neu ryw salwch arall. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen penodi unigolyn arall i wneud penderfyniadau ar ran y person yr effeithir arno, er mwyn sicrhau bod ei faterion ariannol yn cael gofal priodol ym mhob sefyllfa. 

Penodi Dirprwy drwy'r Llys Gwarchod yw un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin o gyflawni hyn, gan roi sicrwydd i'r unigolyn mewn oed neu sâl o wybod bod rhywun yn gofalu am ei fuddiannau. 

Gall y broses o wneud cais i fod yn Ddirprwy gymryd llawer o amser, gyda sawl ffurflen y mae angen eu llenwi'n gywir, a dyna pam y mae'n well ceisio cyngor cyfreithiol ar sut mae'r broses hon yn gweithio.

Yn Lloyd Evans & Hughes, gallwn roi arweiniad arbenigol i chi ar bob agwedd ar fod yn ddirprwy a gweithrediad y Llys Gwarchod. 

GWASANAETH DIRPRWY PROFFESIYNOL

Fe'n penodir yn rheolaidd gan y Llys Gwarchod i weithredu fel Dirprwy Proffesiynol ar gyfer unigolion sydd wedi colli gallu meddyliol, nad oes ganddynt deulu i'w helpu neu os nad yw'r teulu'n gallu ymgymryd â'r rôl eu hunain.

Pan fyddwn yn ymgymryd â'r rôl hon, rydym yn gyfrifol am reoli eiddo a materion ariannol y person hwnnw.

Fel Dirprwy Proffesiynol, gallwn ddelio â'r cais yn ei gyfanrwydd ac ar ôl ein penodi'n Ddirprwy, ymdrin â phob agwedd ar faterion ariannol y person bregus. Gallai hyn gynnwys:

  • cael gwybodaeth am ei asedau/ei hasedau ariannol 

  • talu unrhyw ddyledion a allai fod wedi codi 

  • delio â'r eiddo, gan sicrhau ei fod wedi'i yswirio ac yn ddiogel, bod gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ac yn y pen draw goruchwylio'r gwerthiant 

  • sicrhau ei fod/ei bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddo/ganddi hawl i'w derbyn 

  • cysylltu â'r cartref gofal/darparwr gofal i sicrhau bod ganddo/ganddi bopeth sydd ei angen arno/arni a'i fod/a’i bod mor gyfforddus â phosibl 

  • cyflogi cynghorydd ariannol annibynnol (os oes angen) i sicrhau bod ei arian/ei harian yn ennill y llogau mwyaf posibl 

  • edrych ar ei Ewyllys/ei Hewyllys neu ddelio â chais am Ewyllys Statudol 

  • ymweld â nhw’n rheolaidd. 

Mae ein ffioedd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cael eu pennu gan y Llys Gwarchod ac mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei drafod gyda chi os hoffech i ni weithredu fel Dirprwy Proffesiynol.

POBL SYDD AR GOLL 

Efallai ei bod yn ymddangos yn anghredadwy ond ar gyfartaledd rhoddir adroddiad bod rhywun ar goll bob 90 eiliad yn y Deyrnas Unedig. 

Mae hwn yn gyfnod llawn straen a phryder i'r anwyliaid. Mae'n gwneud pethau'n waeth pan fydd y rhai a adawyd ar ôl yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Os bydd rhywun yn mynd ar goll fel arfer nid oes unrhyw un gyda'r awdurdod cyfreithiol i reoli ei gyllid/ei chyllid. Ni all y teulu gael mynediad i'r cyfrif banc i sicrhau bod biliau'n cael eu talu a gall cartref y teulu fod mewn perygl. 

Ym mis Gorffennaf 2019 daeth Deddf Gwarchodaeth (Personau Coll) 2017 i rym. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn galluogi'r Llys i benodi person dibynadwy fel Gwarcheidwad a gallant sicrhau bod ochr ariannol pethau'n cael y sylw priodol. 

Mae'r Gwarcheidwad yn cael ei oruchwylio gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau bod y penderfyniadau a wna’r Gwarcheidwad er budd gorau'r person sydd ar goll.

Gallwn helpu gyda'r cais i'r Llys a gallwn fynd â chi drwy'r broses hon o'r dechrau i'r diwedd a chynghori pa mor debygol ydyw y bydd y Llys yn eich penodi'n Warcheidwad a phwy sydd angen cael gwybod am y cais. 

Cerrig ar draeth

Sut allwn eich helpu?

Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda ac byddwn mewn cyswllt yn fuan.