Cartref >  Cyfryngu

Cyfryngu


Cyfryngu ydi propses lle mae person annibynol ( y cyfryngwr) yn helpu dau neu fwy o bobol neu grwp o bobol er mwyn  trafod a datrys anghydfod.

Bydd y cyfryngwr yn arwain rheini mewn anghydfod i gyfathrebu gyda’i gilydd ac wrth ddarparu yr amgylchedd briodol gall materion o bwys gael ei trafod. Bydd y cyfryngwr yn helpu’r cyfranogwyr i ddarganfod atebon sydd yn dderbyniol i bawb.

Mae Cyfryngu yn broses gyfrinachol sydd yn cael ei rheoli gan y partion. Mae Sara Lloyd Evans yn gyfeithiwr gyda dros 15 mlynedd o brofiad. Gall Sara ddarparu gwybodaeth i’r partion ar  beth yw’r gyfraith mewn amgylchiadau penodol ond bydd yn gwneud hyn yn gwbwl niwtral.

Mae cynigion yn cael ei gwneud ar sail ‘without prejudice’ ac felly ni ddylai’r partion bryderu am gyfaddawdu ei sefyllfa drwy ymgeisio i setlo’r mater drwy gyfryngu yn y lle cyntaf.

Os oes cytundeb, yna ond ar ol I’r cytundeb ddod yn ysgrifenedig ac ei arwyddo mae’n dod yn ‘gytundeb cyfreithiol’.

Pryd?

Nid oes byth amser anghywir i gyfryngu ac yn aml mae’r penderfyniad i gyfryngu yn fater o gydbwyso risg yn erbyn costau. Gall cyfryngu gymeryd lle ar unrhyw adeg, os yw’r naill barti yn cytuno i’r broses. Gall cyfryngu gymeryd lle cy nacho llys neu yn ystod achos.

Mae’r broses yn gwbwl wirfoddol ac ni all parti orfodi y llall I gymeryd rhan. OND mae’r llys yn disgwyl bod partion wedi ymgeisio cyfryngu cyn bod y mater yn dod o flaen y llys.

Lleoliad

Dylai’r broses cyfryngu gymeryd lle mewn lleoliad niwtral neu lleoliad ble mae’r partion yn teimlo yn gyfforddus. Bydd eich cyfryngwr yn trafod eich anghenion er mwyn sicrhau bold y lleoliad yn addas a hwylus. Yn ddibynol ar natur yr anghydfod yna gall y broses gymeryd hanner diwrnod i ddiwrnod i gwbwlhau.

Cyfryngu Rithiol

Mae Sara yn brofiadol mewn cadeirio cyfarfodydd rithiol ac mae wedi cymeryd rhan mewn nifer  o wrandawiadau llys gan gynnwys trials drwy ddefnyddio platform fidio.  Gall Sara gynnal proses gyfryngu drwy ddefnyddio Zoom neu Teams

Manteision Cyfryngu

  1. Cymeryd tua diwrnod
  2. 75-80% o achosion yn setlo ar y diwrnod
  3. 10-15 % o achosion y setlo yn fuan wedyn
  4. Cost Effeithiol
  5. Cynnal perthynas

Cyfryngu Teuluol

Mae cyfraith teulu yn aml yn cael ei gysylltu gyda gwahanu ac ysgaru ond mae cyfryngu teuluol yn ymwneud ag anghydfod ehangach rhwng perthnasau, materion etifeddiaeth a busnesau teulol.

Mae Sara yn gyfreithiwr profiadol ac mae ei phrofiad o ddelio gyda sefyllfaoedd sensitif, cymleth yn ei gwneud yn gyfryngwr effeithiol a medrus mewn cyfryngu anhydfod teuluol.

Mae ysgariad, ail briodi, ewyllysau cartref a chynyd mewn cyplau sydd yn cydfyw wedi cyfrannu at gynydd mewn anghydfod etifeddiaeth ,ac mae Sara wedi gweld drost ei hun effaith pell gyrhaeddol angydfod o’r natur yma.

Mae anghydfod o fewn busnes teuluol yn gallu bod yn ddinsitriol. Mae’r math yma o anghydfod yn ei gwneud yn addas iawn i gyfryngu er mwyn setlo y mater yn fuan ac osgoi costau cyfreithiol sylweddol.

Gall Cyfryngu Teuluol eich helpu gyda:

  1. Cyfryngu’r Busnes Teuluol
  2. Cygryngu Ymddiriedolaeth Teuluol
  3. Cyfryngu Etifeddiath
  4. Cyfryngu Profiant.

Cyfryngu Masnachol

Gall hyn gynnwys ystod eang o anghydfod gan gynnwys:

Eiddo a Tiroedd
Cytundebau
Partneriaeth a Cyfranddalwyr

Gall hefyd gael ei ddefnyddio gan gwmniau er mwyn datrys anhydfod mewnol rhwng gweithiwr, cyfarwyddwyr a lleihau y tensiwn o fewn gweithfeydd. Mae hyn yn fanteisiol wrth ystyried costau recrwtio a hyfforddi.

Cyfryngu a’r Sector Gyhoeddus

Mae cyfryngu anghydfod sector gyhoeddus yn fanteisiol iawn. Gall y broses arbed arian ac hefyd osgoi cyhoeddusrwydd.

Mae gan Sara brofiad sylweddol o weithio gyda chyrff cyhoeddus ar draws Cymru ac mae’n deall yr angen i ddelio gyda’r materion yn sensitif. Gall Sara deilwra y broses yn unigol i’r achos a sicrhau bod y broses y hyblyg.

Gallwn ddelio gyda anghydfod o wahanol natur gan gynnwys materion cyheoddus, gweinyddol, rheoleiddio,

  1. Adolygiad Barnwrol
  2. Llywodraeth Leol
  3. Cwynion
  4. Cynllunio
  5. Amgylchedd
  6. Ffyrdd
  7. Tai
  8. Trwyddedu
  9. Addysg
  10. Iechyd.

Costau

Bydd y ffi yn cael ei gadarnhau a bydd yn gymesur i werth yr anghydfod. Byddwch yn derbyn yr amcanbris yn dilyn trafodaeth cychwynol.

“Chi, Eich Teulu, Eich Dyfodol”