Cartref > Gwasanaethau Cyfreithiol > Ewyllysiau a Profiant
Ewyllysiau a Profiant
EWYLLYS
Tydi cynllunio ar gyfer marwolaeth byth yn rhywbeth hawdd i siarad amdano. Er hynny, ni ddylai rhywun beidio â pharatoi yn ofalus, a gall wybod bod eich dymuniadau yn cael ei gwireddu wedi i chi fynd fod yn dawelwch meddwl.
Tydi ysgrifennu ewyllys ddim yn rhywbeth mae nifer ohonom yn ystyried gwneud nes hwyrach ymlaen mewn bywyd.
Er hynny, gall ddrafft proffesiynol o Ewyllys fod yn un o’r dogfennau pwysicaf gall rhywun ei chael. Mae Ewyllys yn egluro beth sydd yn digwydd i'ch asedau wedi i chi farw – pwy gaiff beth, pryd, a gallai gynnwys manylion ar sut gall yr ased ei reoli.
Er bod mynediad i Ewyllysiau DIY ar-lein neu mewn siop bapur newydd y stryd fawr yn opsiwn, dylir eu hosgoi, ac mae diffyg gofal wrth gynllunio yn gallu arwain at broblemau diangen.
O ewyllysiau syml, sydd yn addas ar gyfer mwyafrif o’n cleientiaid, i’r rhai cymhleth sydd yn cynnwys holl ystyriaethau, mae ganddom yr arbenigedd ar eich cyfer.
Rydym yn gyflym yn ymateb a pharatoi dogfennau, ond nid ydym yn brysio i wneud penderfyniadau: rydym yn dda am wrando ac yn brydlon yn delio gydag eich ymholiadau sydd yn golygu bydd eich profiad gyda ni yn un positif.
PROFIANT
Pan rydych yn colli rhywun agos, mae’n gyfnod anodd, a gall delio gydag unrhyw waith papur ar gyfer cais profiant fod yn frawychus. Gallwn eich helpu, ac eich tywys drwy’r broses o weinyddu ystâd.
Rydym yma ar gyfer:
- helpu i weinyddu unrhyw faint ystâd, o’r syml i’r rhai cymhleth;
- trin yr holl waith gweinyddol, neu’n rhannol os hoffech wneud rywfaint o’r gwaith eich hun;
- cyflawni a chyflwyno'r profiant a’r datganiad y dreth etifedd gan sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu;
- eich helpu os yw eich anwyliaid yn marw heb unrhyw ewyllys.
Rydym yn hynod o brofiadol ac yn gwybod nad oes yr un ystâd yr un peth a’i gilydd. Unwaith y byddwn wedi siarad gyda chi, a deall y gwaith sydd ei angen, gallwn eich cynghori ar un math o wasanaeth sydd yn addas ar eich, gyda chynllun manwl o’r gwaith sydd ei angen gan amcangyfrif ffî o flaen llawn.
Gan ein bod yn cynghori ac amcangyfrif materion gweinyddiaeth drwy’r dydd, bob dydd, ychydig o sefyllfaoedd anghyfarwydd rydym wedi’i dod ar eu traws, a gallwn ymateb yn gyflym i sicrhau bod yna symudiad yn digwydd heb unrhyw oedi.
Sut allwn eich helpu?
Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda ac byddwn mewn cyswllt yn fuan.