Cartref > Amdanom > Beca Haf Hughes
Ganwyd a magwyd Beca yn Waunfawr. Astudiodd y Gyfraith (LLB) ym Mhrifysgol Lerpwl, gan raddio yn 2025.
Mae Beca yn gweithio fel Swyddog Gweinyddol yn Lloyd Evans & Hughes, gan ddarparu cymorth gweinyddol i'r timau Cleientiaid Preifat a Chyfraith Teulu, yn ogystal â chynorthwyo gyda rhedeg y swyddfa o ddydd i ddydd. Mae Beca yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn mwynhau gallu defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn ei gwaith.
Y tu allan i'r gwaith, mae Beca yn mwynhau teithio ac yn ddiweddar treuliodd saith mis yn teithio o amgylch Asia, Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd yn mwynhau darllen a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
© Hawlfraint 2026 - Lloyd Evans & Hughes - Gwefan gan Delwedd.